Ynglyn

menu icon
Portrait of Helen Sear

Ynglŷn â’r Artist

Symudodd Helen Sear i Gymru yn wreiddiol ym 1984 ar ôl cwblhau Uwch-ddiploma mewn Celf Gain yn Ysgol Slade, Coleg Prifysgol Llundain. Daeth ei ffotograffau’n adnabyddus yn arddangosfa 1991 y Cyngor Prydeinig, De-Composition: Constructed Photography in Britain a deithiodd America Ladinaidd a Dwyrain Ewrop. Cynhwyswyd ei gwaith yn About Face yn Oriel Hayward, Llundain yn haf 2004 a La Mirada Reflexiva yn yr Espai D’Art Contemporani yn Castellon, Sbaen yn 2005. Mae ei harddangosfeydd unigol diweddar yn cynnwys Inside The View, a ddangoswyd yn Gallery Harmonia, Y Ffindir yn 2006, a g39 Caerdydd, a gyhoeddodd y llyfr artist Tale yn 2009 hefyd, a Beyond The View, Oriel Hoopers, Llundain, Oriel Klompching, Efrog Newydd, a Bildkultur, Stuttgart, 2010-12. Cyhoeddodd Ffotogallery ei monograff mawr cyntaf, Inside The View, yn 2012. Cyhoeddodd GOST y llyfr artist Brisées yn 2013 fel cydymaith i Lure, a fu ar daith genedlaethol fawr yr un flwyddyn. Cynhaliodd ei harddangosfa ddiweddaraf yn y 5ed Rencontres Internationales de la Photographie en Gaspesié, Quebec, Canada, haf 2014.

Helen Sear yw’r artist benywaidd cyntaf a ddetholwyd i gynnal arddangosfa unigol ar gyfer Cymru yn Fenis/Wales in Venice. Mae Sear, un o artistiaid cyfoes pwysicaf Cymru, yn parhau i archwilio syniadau a mynegiant synhwyraidd, golwg, cyffyrddiad, a ffyrdd o ailgyflwyno natur profiad, gan gyfeirio’n benodol yn yr achos hwn at ei chynefin yng nghefn gwlad Cymru.

Turner House Gallery

Y Sefydliad sy’n Cyflwyno

Ffotogallery yw’r asiantaeth ddatblygu genedlaethol ar gyfer ffotograffiaeth a chyfryngau seiliedig ar lens yng Nghymru. Mae’n edrych tuag allan, gyda rhaglen o arddangosfeydd o waith artistiaid o Gymru a gweddill y byd. Trwy arddangosfeydd, cyhoeddiadau, cyrsiau, projectau addysgol a digwyddiadau, mae Ffotogallery yn dal i gyflwyno’r ddelwedd ffotograffig gyfoes mewn cyd-destun cyfoethog sy’n ehangu beunydd o drafodaeth feirniadol a hanesyddol. Yn ogystal â chael ein dewis i guradu Cymry yn Fenis/Wales in Venice 2015, mae Ffotogallery’n rhedeg Diffusion: Gŵyl Ffotograffiaeth Ryngwladol ddwy-flynyddol Caerdydd, a ni yw’r sefydliad blaen ar gyfer European Prospects, rhaglen gydweithredol ban-Ewropeaidd sy’n hwyluso mwy o deithio gan artistiaid a dialog a chyfnewid rhyng-ddiwylliannol.

www.ffotogallery.org


Mae David Drake yn cyflwyno’r project

Ffotogallery director David Drake

Y cyflwyniad ar gyfer Cymru yn Fenis/Wales in Venice 2015 yw …the rest is smoke gan yr artist Helen Sear, Digwyddiad Cyfochrog ym 56ed Arddangosfa Gelf Ryngwladol La Biennale di Venezia.

Cyfres o weithiau newydd yw …the rest is smoke, a gomisiynwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac a guradwyd gan Ffotogallery. Fe’u crewyd ar gyfer pum gofod ar wahân yn y Santa Maria Ausiliatrice, eglwys a chyn-gwfaint yn ardal Castello yn Fenis, lle dangosir hwy.

Bu gan Ffotogallery berthynas faith gyda’r artist, gan gyhoeddi monograff adolygol deng mlynedd ar hugain Sear, Inside The View, yn 2012, ac rydym wedi arddangos ei gwaith ar sawl achlysur blaenorol, yn rhyngwladol ac yng Nghymru.

Ar gyfer Cymru yn Fenis/Wales in Venice, penododd Ffotogallery y curadur annibynnol Stuart Cameron a’r curadur cynorthwyol/rheolydd project Kathryn Standing i’n tîm. Cameron oedd curadur arddangosfa fawr gyntaf yr artist yng Nghymru, a thyfodd eu perthynas dros ddeng mlynedd ar hugain, gan esgor ar sail gref o barch a hyder yn ei gilydd. Bu cydberthynas guradurol Cameron gyda’r artist, a’i sensitifrwydd i’r syniadau a’r ysgogiadau creadigol yn ei gwaith, yn hanfodol i ddatblygu a gwireddu’r project hwn.

Fel sy’n gweddu i broject cyfochrog, mae …the rest is smoke wedi ei wreiddio yn nhirwedd leol a chyfarwydd Cymru ond mae hefyd yn ymateb i gyd-destun ehangach Biennale Fenis. Ar gyfer y 56ed Biennale di Venezia, dewisodd y curadur Okwui Enwenzor y thema ‘Holl Ddyfodolion y Byd’, gan archwilio’r berthynas rhwng celf a datblygiad y byd dynol, cymdeithasol a gwleidyddol. Er na ddatblygwyd …the rest is smoke fel ymateb penodol i’r thema hon, mae’n cyd-daro’n dda â hi. Mae ansoddau affeithiol y gwaith yn gweithredu i dynnu’r gwyliwr i mewn i ofod rhithiol y ddelwedd, mewn dialog â phensaernïaeth y gofod y lleolir y gwaith ynddo, gan aflonyddu ar y persbectif un-safbwynt er mwyn cyflwyno tirweddau a’u perthynas â’r corff dynol fel rhywbeth ymdrochol a chymhleth.

Ar gyfer project ar-lein Profi Cymru yn Fenis, sy’n gydymaith i’r arddangosfa, mae’n bleser gennym gydweithio’n glòs ag artistiaid dethol rhaglen Goruchwylwyr Plws CCC. Yn ogystal â chreu gwefan ynglŷn â Helen Sear a’r arddangosfa, rydym yn gweithio gyda’r pymtheg artist i ddogfennu eu profiadau unigol o Gymru yn Fenis. Bydd cyfoeth o adnoddau ar gael i gynulleidfaoedd ar-lein, fel cyfweliadau ag artistiaid, cofnod o esblygiad yr arddangosfa yn ogystal â gweithdai ysgolion y gellir eu lawrlwytho. Yn ychwanegol at waith ffantastig y goruchwylwyr yn Fenis, gobeithiwn y bydd y wefan yn cynnig mewnweliad newydd i’r gynulleidfa ac yn cyfrannu at ddialog beirniadol rhyngwladol ynglŷn â gwaith Helen.

Arts Council Wales

Y Comisiynydd

Cyngor Celfyddydau Cymru yw'r corff sy'n datblygu a chyllido'r celfyddydau yng Nghymru. Ei weledigaeth yw Cymru greadigol lle mae’r celfyddydau wrth wraidd bywyd ein cenedl, a lle mae cyfraniad y celfyddydau yn cael ei gydnabod, ei werthfawrogi a’i ddathlu.

http://www.cyngorcelfyddydaucymru.org.uk/


Cymru yn Biennale Celf Fenis

Mae Cymru wedi arddangos fel Digwyddiad Cyfochrog yn Biennale Fenis ers 2003. Mae presenoldeb Cymru yn y Biennale yn cynnig cyfle i arddangos celf weledol Cymru ar y llwyfan rhyngwladol mwyaf ei fri yn y byd. Mae Biennale Fenis yn hanfodol bwysig i broffil, enw da a gyrfaoedd yr artistiaid a ddewisir i gynrychioli Cymru ac i ddelwedd Cymru fel gwlad sy'n ceisio hyrwyddo ei diwylliant cyfoes ledled y byd gan nodweddu proffil diwylliannol Cymru â chelfyddyd o safon. Mae arddangosfa Cymru wedi ei chomisiynu a'i rheoli gan Gyngor Celfyddydau Cymru gyda cefnogaeth cymhorthdal oddi wrth Lywodraeth Cymru.

Mae Cymru yn Fenis/Wales in Venice yn gweithio gyda chydweithwyr sy’n trefnu Scotland + Venice (Creative Scotland), a gyda’r Cyngor Prydeinig sy’n cyflwyno Pafiliwn Prydain ac yn arwain y gwaith gwerthfawr o gyd-drefnu hyrwyddo arddangosfeydd cyfochrog Prydeinig a chysylltiedig yn Fenis.

http://www.artscouncilofwales.org.uk/arts-in-wales/fenis

Biennale 2015

Ynglŷn â Biennale Fenis

Biennale Celf Fenis yw prif ŵyl ryngwladol y celfyddydau gweledol. Sefydlwyd hi ym 1895 ac erbyn heddiw mae dros 300,000 o bobl yn mynd iddi, gyda 30,000 o guraduron, beirniaid, casglwyr ac artistiaid rhyngwladol allweddol a chynrychiolwyr gwleidyddol a diwylliannol yn mynychu’r Vernissage (rhagolwg) tridiau o hyd. Mae'r Biennale yn digwydd ar ddau safle swyddogol yn Fenis: yr Arsenale sy'n gartref i’r arddangosfa ryngwladol, a'r Giardini di Castello yn nwyrain y ddinas, sy'n cynnwys y pafiliynau cenedlaethol hanesyddol.

Okwui Enwezor yw curadur y 56ed Arddangosfa Gelf Ryngwladol. Bydd Holl Ddyfodolion y Byd yn cynnwys 136 o artistiaid o 53 o wledydd, y bydd 88 ohonynt yn arddangos yma am y tro cyntaf.

www.labiennale.org

Datganiad i’r Wasg

Mae’n bleser gan Gyngor Celfyddydau Cymru gyhoeddi bod Helen Sear wedi ei dewis i gynrychioli Cymru yn Fenis/Wales in Biennale Fenis a gynhelir o’r 9 o Fai tan yr 22 o Dachwedd 2015. Mae ‘…the rest is smoke’ yn un o Ddigwyddiadau Cyfochrog swyddogol y 56ed Arddangofa Gelf Ryngwladol. Dyma’r tro cyntaf i Gymru gyflwyno arddangosfa unigol gan artist benywaidd.

Trefnir Digwyddiadau Cyfochrog, a ddetholir gan Gyfarwyddwr y Biennale, gan gyrff a sefydliadau di-elw cenedlaethol a rhyngwladol. Cafodd 44 o Ddigwyddiadau Cyfochrog eu dewis i'w cynnal ar draws y ddinas eleni, gan gyfoethogi amrywiaeth y lleisiau sy'n nodweddu Biennale Fenis.

Lawrlwythwch y datganiad llawn


The Team

Y Tîm

Partneriaeth yw Cymru yn Fenis/Wales in Venice 2015 rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru, comisiynydd y project, a Ffotogallery, y sefydliad a ddetholwyd i guradu a chyflwyno’r arddangosfa.

Adlewyrchir y sail resymegol dros gyflwyno yn Fenis, a’r hyn rydym yn ceisio ei gyflawni, yn nodau’r bartneriaeth, sef:

  • Cyflwyno’r artistiaid mwyaf cyffrous a chreadigol sy’n gysylltiedig â Chymru
  • Canolbwyntio sylw rhyngwladol a chenedlaethol ar yr amrywiaeth o waith yng Nghymru, o Gymru ac yn ymwneud â Chymru sy’n denu clod beirniadol
  • Creu profiadau a chysylltiadau rhyngwladol ar gyfer orielau, curaduron ac artistiaid a fydd yn datblygu’r celfyddydau gweledol yng Nghymru
  • Dathlu Cymru yn y Byd fel gwlad ddynamig, diwylliannol ymgysylltiedig a blaengar.

Tîm y comisiynydd yw:

  • Louise Wright, Prif Gomisiynydd
  • Sian James, Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
  • Cerys Thomas, rhaglen Oruchwylio
  • David Alston, Cyfarwyddydd Celfyddydau
  • Andrew Richards, Pennaeth Datblygu Busnes

Darparwyd gwasanaethau Rheoli Lleoliad a Chaniatâd yn Fenis gan Paul Bradley, gyda Hwyluso Lleol gan Barbara del Mercato

Carai’r comisiynydd ddiolch i:

Stefano Pillinini a Paolo Dedè; Municipalita de Venezia, a Paolo Scibelli, Fondazione La Biennale di Venezia am eu cydweithrediad parhaus.

Tîm Arddangosfa Ffotogallery yw:

  • David Drake, Cyfarwyddydd y Project
  • Stuart Cameron, Curadur
  • Kathryn Standing, Curadur Cynorthwyol/Rheolydd y Project
  • Lisa Edgar ac Anne Siegel, Dysgu ac Ymgysylltu
  • Chantal Harrison-Lee, Cyllid a Logisteg
  • Marc Arkless, Cefnogaeth Dechnegol

Carai tîm arddangosfa Ffotogallery gynnig cydnabyddiaeth arbennig i Matthew Lovett, Andy Moss a Thîm Ffilm a Fideo Spike Island, Stefhan Caddick, Papergecko Design, Steve Connor, Emma Pettit, Rosalind Arratoon a Luke Neve, Margaret PR, Paul Bradley Studio, Oliver Norcott a Pete Goodrich, Art Works Exhibition Services Cyfyngedig, David Shepherd / Echidna Design.

Mae Ffotogallery hefyd yn dra diolchgar am y wybodaeth arbenigol a’r arweiniad a gawsom gan Bwyllgor Cynghorol Cymru yn Fenis/Wales in Venice, cadeirydd Dr. Kate Woodward, yn cynnwys y diweddar Osi Rhys Osmond, cyn-gadeirydd y pwyllgor ac Aelod o Gyngor Cyngor Celfyddydau Cymru, Mike Tooby, Ben Borthwick, Ann Jones, Karen MacKinnon a Nicholas Thornton. Gweinyddiaeth gan Eleri Allsobrook, Cyngor Celfyddydau Cymru.