Rhaglen

menu icon

Rhaglen Goruchwylwyr Arbennig


Mae gan Gyngor Celfyddydau Cymru ymrwymiad i ddarparu cyfleoedd datblygu proffesiynol i artistiaid a churaduron fel rhan o Cymru yn Fenis/Wales in Venice. Rydym am alluogi artistiaid a churaduron sy’n gweithio yng Nghymru i weld gwaith cyfoes rhyngwladol yn y celfyddydau gweledol, profi Biennale Fenis, a chynorthwyo i hwyluso presenoldeb Cymru yn y Biennale trwy eu cefnogaeth fel goruchwylwyr.

Diben y rhaglen Goruchwylwyr Plws yw rhoi cyfleoedd gwerthfawr i rai sy’n cymryd rhan ynddo i gwrdd ag artistiaid a goruchwylwyr o wledydd eraill sy’n cyfranogi yn y Biennale, datblygu eu rhwydweithiau creadigol, trafod a rhannu syniadau am arfer celfyddydau cyfoes yn ogystal â datblygu cyfleoedd arddangos newydd.

Eleni, rydym wedi penodi pymtheg o artistiaid a churaduron am gyfnodau o 6-7 wythnos yn ystod yr arddangosfa, a gynhelir o’r 9 o Fai tan yr 22 o Dachwedd, sef: Meg Beaumont, Kelly Best, Megan Broadmeadow, Freya Dooley, Louise Hobson, Honey Jones-Hughes, Catrin Llwyd, Lydia Meehan, Harry Morgan, Sioned Pennant, Claire Prosser, Becca Thomas, Cerys Thomas-Ford, Thomas Williams a Luc Wise.

Mae’r unigolion hyn yn cynnig rhyngwyneb hanfodol ag ymwelwyr â’r arddangosfa. Maent yn goruchwylio’r arddangosfa a sicrhau ei bod yn rhedeg yn llyfn – o’r dyddiau agoriadol gwyllt, trwy’r ymweliadau grŵp yn nes ymlaen a drefnir gan grwpiau a cholegau, hyd at ddiwedd yr arddangosfa ym mis Tachwedd. Yn ystod eu harhosiad, gallant hefyd gyflawni projectau personol fel artistiaid neu guraduron.

Eleni mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi ymuno â Ffotogallery sy’n darparu llwyfan unigryw lle gall y pymtheg artist gofnodi eu profiad o fod yn Fenis a dogfennu siwrnai greadigol pob un wrth greu gwaith a darganfod Fenis a’r Biennale. Bydd gan bob artist broffil, a bydd eu cyfraniadau ar gael ar eu tudalennau unigol yn ogystal ag ar linell amser y wefan sydd ar y dudalen flaen. Edrychwch arnynt yn gyson i weld beth mae’r tîm wrthi. Rydym hefyd yn cynnig y cyfle i gysylltu â’r goruchwylydd yn uniongyrchol a gofyn cwestiynau ynglŷn â’r arddangosfa, yr artist neu brofiadau’r goruchwylydd wrth weithio yn Fenis.