Dysgu

menu icon

Dysgu

Mae Profi Cymru yn Fenis yn cynnig mewnwelediad unigryw i arddangosfa the rest is smoke… , o’r broses o’u datblygu a’i gosod yn ei lle, i wythnos y lansio. Ymwelwch â’r dudalen flaen a defnyddiwch y ddyfais linell-amser i lywio. Sgroliwch i’r chwith ac i’r dde i symud trwy amser ac archwilio’r cynnwys rhyngweithiol – mae gennym gyfoeth o adnoddau ar gael at gyfer cynulleidfaoedd ar-lein, fel cyfweliadau â’r artist, cofnod o’r arddangosfa wrth iddi esblygu, oriel o’r gweithiau a thraethodau, yn ogystal â sain a ffotograffiaeth sy’n crisialu cyffro Biennale Fenis.

Mae’r gwaith mewn ffrâm o wybodaeth gyd-destunol yn cynnwys cyfweliadau, datganiadau artistiaid, traethodau comisiwn, ac adnoddau dysgu ffurfiol, yn ogystal ag awgrymiadau parthed ymchwil bellach.

Paratowyd y deunyddiau addysgu i athrawon ar y cyd ag Anona Harris, athrawes gelf uwch, cynghorydd ac arholydd allanol gyda bwrdd arholi Cymru, CBAC. Maent yn cynnig ffyrdd o addasu gwaith Helen Sear ar gyfer y stafell ddosbarth i ateb gofynion cyfredol Celf a Dylunio TGAU ac ôl-16. Maent yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol a syniadau ar gyfer addysgwyr yn y celfyddydau.

Mae Profi Cymru yn Fenis yn cynnig llwyfan i’r tîm o 15 artist a fydd yn rheoli’r lleoliad yn ystod 7 mis yr arddangosfa, lle gallant adrodd eu straeon eu hunain am eu profiad o weithio fel rhan o’r Biennale ac ymgysylltu â chynulleidfaoedd rhyngwladol mewn amryw o ffyrdd, yn cynnwys lluniadu, sgrifennu, tynnu ffotograffau, fideo a chyfryngau rhyngweithiol. Gobeithiwn y bydd y wefan yn meithrin dialog cyfoethog parhaus o gwmpas gwaith Helen Sear, ac y bydd yn waddol bwysig i Cymru yn Fenis 2015.

Canllawiau i Athrawon

Mae pecyn dysgu the rest is smoke…. yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol a syniadau ar gyfer addysgwyr yn y celfyddydau. Mae’n cynnwys syniadau ar gyfer gwersi ac yn archwilio gwaith Helen Sear trwy nodi themâu a rhoi cyfeiriadau at artistiaid a genres cysylltiedig, tra’n addasu’r gwaith ar gyfer amodau’r stafell ddosbarth i ateb gofynion cyfredol Celf a Dylunio TGAU ac ôl-16. Paratowyd y pecyn athrawon ar y cyd ag Anona Harris, athrawes gelf uwch, cynghorydd ac arholydd allanol gyda bwrdd arholi Cymru, CBAC.

Canllawiau i Athrawon

Rhan 1 – Cyfnod Allweddol 2

  • Thema 1 – Yr Olygfa Fylchog
  • Thema 2 – Delweddau Haenog
  • Thema 3 – Cofnodi Treigl Amser

Rhan 2 – Cyfnod Allweddol 3

  • Thema 1 – Llinellau Gweled Cuddiedig
  • Thema 2 – Delweddau Haenog
  • Thema 3 – Ymyriadau yn y Dirwedd
  • Thema 4 - Cofnodi Treigl Amser
  • Thema 5 – Gweithiau Safle-benodol