Arddangosfa

menu icon
Image from Helen Sear's the rest is smoke exhibition

Cyflwyniad i’r Arddangosfa

Painting of St Sebastian by Mantegna

Y cyflwyniad ar gyfer Cymru yn Fenis/Wales in Venice 2015 yw …the rest is smoke gan yr artist Helen Sear, Digwyddiad Cyfochrog ym 56ed Arddangosfa Gelf Ryngwladol La Biennale di Venezia. Comisiynwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru a churadwyd gan Ffotogallery.

Cyfres o weithiau newydd yw …the rest is smoke a grewyd ar gyfer pum gofod ar wahân yn Santa Maria Ausiliatrice, eglwys a chyn-gwfaint yn ardal Castello yn Fenis, lle dangosir hwy. Daw teitl yr arddangosfa o arysgrif ym mheintiad olaf Mantegna o Sant Sebastian, sydd bellach yn y Ca’ d’Oro yn Fenis: Nihil nisi divinum stabile est. Caetera fumus.

Archwilir syniadau am farwoldeb a threigl amser mewn cyfres o weithiau newydd lle gwelir tirweddau amaethyddol a glustnodwyd ar gyfer cynhyrchu ac ymborthi yn bodoli ar yr un pryd fel gofodau hudolus sy’n gwneud argraff ar gorff a meddwl y gwyliwr. Mae gwaith ffotograffig a fideo Sear yn archwilio’r ddelwedd fel ffurf gerfluniol y mae’r artist drwyddi yn integreiddio edrych ar sawl cyflymdra gwahanol, a chyferbynnu graddfa ffisegol, lliw a phresenoldeb materol hyfyw. Mae’r gweithiau unigol yn cydatseinio’n gryf â’i gilydd a chyda safle pensaernïol yr arddangosfa.

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn ein hadnoddau dysgu. Rydym yn darparu cyfoeth o gynnwys ar gyfer cynulleidfaoedd ar-lein, fel cyfweliadau gydag artistiaid, a chofnod o ddatblygiad yr arddangosfa, yn ogystal ag ysgrifau a gweithdai sy’n taflu goleuni ar ddull gwaith Helen Sear a’r broses guradurol ehangach.

Oriel o’r Gwaith

Cyhoeddiad

Mae Ffotogallery wedi cyhoeddi llyfr yn gydymaith i’r arddangosfa, Helen Sear, …the rest is smoke. Yn ogystal â delweddau o’r arddangosfa, mae’r cyhoeddiad yn cynnwys testun wedi ei gomisynu’r arbennig gan Steven Connor, Athro Saesneg ym Mhrifysgol Caergrawnt, a sesiwn ‘sgwrsio’ rhwng y curadur, Stuart Cameron, a’r artist, sy’n taflu goleuni ar y syniadau a’r dylanwadau sydd wedi ei thywys wrth iddi ddatblygu a gwireddu’r gwaith.

Mae’r cyhoeddiad/catalog ar gael o’n lleoliad yn Santa Maria Ausiliatrice a gellir archebu copïau yn uniongyrchol oddi wrth Ffotogallery, i’w derbyn yn ddiweddarach yn yr haf.

Lleoliad

Cyfeiriad ac Oriau Agor

Helen Sear …the rest is smoke yn Santa Maria Ausiliatrice, Fondamenta San Gioacchino, 30122 Venezia

Dyddiau’r Rhagolwg – 6 - 8 Mai Ar agor: 10.00 -18.00

Rhagolwg y Wasg – 6 Mai 12.00 - 14.00

Arddangosfa – 9 Mai - 22 Tachwedd 2015

Ar agor: 10.00 - 18.00 (Ar gau ar ddydd Llun)

Santa Maria Ausiliatrice, venice

Y Lleoliad

Hen gwfant sydd nawr yn cael ei ddefnyddio fel canolfan gymuned yw Santa Maria Ausiliatrice. Mae’r gofodau a ddefnyddir gan Gymru yn cynnwys yr hen gapel yn ogystal â nifer o stafelloedd cyfoes.

Wedi ei leoli hanner ffordd rhwng prif safleoedd y Biennale, y Giardini a’r Arsenale mae Santa Maria Ausiliatrice ar y Fondamenta San Gioacchino ger stryd lydan y Via Garibaldi. Mae’n hygyrch ac yn hawdd iawn i’w ganfod.


Gweld lleoliad y Santa Maria Ausiliatrice mewn map mwy

Sut I gyrraedd Santa Maria Ausiliatrice

1. O Linellau Vaporetto 1, 41/42 Glanfa Arsenale.

Cerddwch dros y bont i’r dde i Riva S. Biagio. Trowch i’r chwith a cherdded i ben Via Guiseppe Garibaldi. Mae hon yn stryd gerdded lydan oherwydd i’r canal gael ei sychu a phafin ei osod. Pan gyrhaeddwch lle mae’r canal yn ailymddangos, cadwch i’r chwith, dros un bont fechan ac mae Santa Maria Ausiliatrice ar y chwith ar Fondamenta San Gioacchino.

2. Llinellau Vaporetto 1, 2, 41/42, 51/52, 61/62 Glanfa Giardini.